Rydych chi wedi cwblhau 0% o'r arolwg hwn
Caution: JavaScript execution is disabled in your browser or for this website. You may not be able to answer all questions in this survey. Please, verify your browser parameters.

Ymgynghoriad Fairbourne: Fframwaith ar gyfer y Dyfodol 2019

 

Mae'r llyfryn Fairbourne: Fframwaith ar gyfer y Dyfodol yn ffurfio rhan o broses ymgynghori gyda thrigolion, perchnogion tai a rhanddeiliaid a gychwynnodd yn wreiddiol yn 2013 ac a fydd yn parhau am lawer blwyddyn i ddod. Mae'n dangos ffordd o gynnal Fairbourne ac o reoli'r risgiau sy'n wynebu'r gymuned a'r ardal o'i hamgylch hyd at 2055. Mae'r llyfryn hefyd yn rhoi gwybodaeth ynghylch sut y bydd Fairbourne yn cael ei effeithio gan newid hinsawdd a'r angen brys i ystyried newidiadau. 

 

Fel rhan o'r ymgynghori parhaus, ac yn ychwanegol at y sesiynau ymgynghori a fydd yn cael eu cynnal fel rhan o'r digwyddiad lansio ar 10 ac 11 Hydref 2019, gofynnwn i chi gymryd yr amser i ateb y cwestiynau dilynol. Mae'n bwysig eich bod yn rhoi eich adborth gan y bydd yr wybodaeth hon yn cael ei hystyried a'i chynnwys yn rhaglen waith Fairbourne: Symud Ymlaen dros y blynyddoedd i ddod. 

 

Bydd angen i ni dderbyn eich sylwadau erbyn dydd Gwener 22 Tachwedd 2019. 

 

Bydd eich ymateb yn cael ei drin yn gyfan gwbl gyfrinachol yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data (2018) ac ni fydd y canlyniadau'n cael eu defnyddio / cyhoeddi mewn ffurf lle bod modd adnabod unigolion. Dim ond i ddibenion yr ymgynghoriad Fairbourne: Fframwaith ar gyfer y Dyfodol y byddwn yn defnyddio eich data personol ac ni fydd yn cael ei rannu â unrhyw sefydliad tu allan i Bartneriaeth Fairbourne yn Symud Ymlaen. 

 

 

 

Mae 10 o gwestiynau yn yr arolwg hwn.