Rydych chi wedi cwblhau 0% o'r arolwg hwn
Caution: JavaScript execution is disabled in your browser or for this website. You may not be able to answer all questions in this survey. Please, verify your browser parameters.

Arolwg Bysiau Lleol Gwynedd 2019

 

Fel y gwyddoch, mae’r rhwydwaith cludiant cyhoeddus yng Ngwynedd wedi gweld cyfnod anodd iawn dros y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i gwmnïau yn gorfod cau neu cholli trwyddedau.

 

Mae’r Cyngor yn gwario oddeutu £1.5 miliwn ar gynnal y rhwydwaith bob blwyddyn ac yn cyfrannu £476 mil i’r Llywodraeth am Gerdyn Teithio am ddim (dros 60 ac anabl).

 

Mae wedi dod yn glir y bydd y sefyllfa ariannol fydd yn wynebu Cyngor Gwynedd dros y blynyddoedd nesaf yn fwy heriol nag erioed a bydd angen cyfiawnhau pob ceiniog o wariant. Mae’n anorfod bellach bod adolygiad cynhwysfawr ar y rhwydwaith yn cael ei gynnal i ddeall beth yw anghenion trigolion Gwynedd am gludiant cyhoeddus, ac yna ceisio llunio rhwydwaith i gyfarch yr angen hwnnw mewn modd effeithlon a chost effeithiol. 

 

I wneud hynny mae’r Cyngor wedi bod yn cydweithio gyda Phrifysgol Bangor i ddylunio holiadur a chael cyn gymaint o drigolion Gwynedd boed nhw yn defnyddio’r gwasanaethau neu ddim i gwblhau’r holiadur.  Ein nod fydd cyfrifo pa lwybrau bysiau sydd yn darparu’r gwerth cymdeithasol mwyaf i’n trigolion.

 

Rydym am wybod gennych am bwrpas eich taith h.y. i siopa, mynediad i waith, addysg, cymdeithasu neu iechyd ac i ba raddau mae eich lles yn gwella drwy ddefnyddio gwasanaeth bws. 

 

Rydym yn gwybod bod rhai trigolion yn cael trafferth i fynychu apwyntiadau iechyd e.e. mynd i weld eu meddyg, rhai eraill methu mynd i siopa neu i’r banc ac yn fwy pryderus fod yr henoed yn cael eu hynysu a gweld neb am ddiwrnodau am nad oes gwasanaeth bws digonol ar gael yn y pentrefi gwledig.

 

Ein bwriad yw cyfarch anghenion mwyafrif o bobl Gwynedd boed hynny ar fws mawr, bws mini, dacsi neu wasanaeth ar alw. 

 

Buaswn yn ddiolchgar pe baech yn cwblhau’r holiadur hwn i’n cynorthwyo gyda’r adolygiad.

 

Bydd eich ymatebion yn cael eu trin yn gyfan gwbl gyfrinachol yn unol â Deddf Diogelu Data (2018) ac ni fydd yn bosib eich adnabod o'ch ymatebion. Rydym yn cydweithio gyda Prifysgol Bangor ar y prosiect hwn a bydd y wybodaeth fyddwch yn ei ddarparu yn cael ei rannu â hwy.