Rydych chi wedi cwblhau 0% o'r arolwg hwn
Caution: JavaScript execution is disabled in your browser or for this website. You may not be able to answer all questions in this survey. Please, verify your browser parameters.

Holiadur Iaith Gwynedd 2020

Mae Hunaniaith (Menter Iaith Gwynedd) yn cynnal arolwg er mwyn cael barn y cyhoedd am yr hyn y dylem ei gynnwys yn ein rhaglen waith yn y dyfodol ac am gyflwr a defnydd o’r Gymraeg yng nghymunedau Gwynedd.

Pwrpas Hunaniaith yw hyrwyddo a chynyddu defnydd o’r Gymraeg o fewn teuluoedd, pant a phobl Ifanc ac mewn cymunedau ar draws y sir. Rydym yn gwneud hynny drwy gynnal prosiectau, gweithgareddau a chydweithio gyda grwpiau, sefydliadau ac ysgolion.

Beth yw eich barn chi? A yw’r iaith Gymraeg yr un mor gadarn yng Ngwynedd heddiw ag y bu yn y gorffennol? Sut all Hunaniaith wneud y defnydd gorau o arian i gyrraedd ein nod? Beth yn eich barn chi yw rôl menter iaith fel Hunaniaith?

 

Mae’r holiadur ar agor tan 26 Mehefin 2020.  

 

Bydd eich ymateb yn cael ei drin yn gyfan gwbl gyfrinachol yn unol â’r Ddeddfau Diogelu Data ac ni fydd y canlyniadau'n cael eu defnyddio / cyhoeddi mewn ffurf lle bod modd adnabod unigolion. Ni fyddwn yn rhannu eich data personol gyda unrhyw sefydliad arall a bydd eich ymatebion yn cael eu dileu o fewn dwy flynedd i'r arolwg ddod i ben. 

Mae 24 o gwestiynau yn yr arolwg hwn.