Ydych chi'n byw yng Ngwynedd? os ydych, Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn eisiau holi barn trigolion Gwynedd am faterion 'trosedd ac anhrefn' yn eu cymunedau.
Mae'n bartneriaeth statudol, aml-asiantaeth, sy'n dod a nifer o asiantaethau at ei gilydd i gynnwys:
- Awdurdodau Lleol (Gwynedd a Môn)
- Heddlu Gogledd Cymru
- Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
- Prawf Cymru
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Asiantaethau gwirfoddol a statudol eraill
Nod y bartneriaeth yw gwneud Gwynedd ac Ynys Môn yn llefydd diogel i fyw, gweithio ac ymweld.
Pob blwyddyn, mae’r Bartneriaeth yn creu asesiad strategol o drosedd ac anhrefn ar draws Gogledd Cymru. Mae'r asesiad hwn, ynghyd a ffynonellau gwybodaeth eraill, yn galluogi'r Bartneriaeth i greu cynllun i leihau trosedd ac anhrefn yn y sir drwy ddefnyddio tystiolaeth, mewn modd sydd yn cael ei dargedu. Mae'r holiadur yma yn rhan bwysig o'r broses ymgynghori.
Nid yw’r holiadur yma yn gofyn i chi roi eich enw na chyfeiriad, dim ond eich cod post. Galluogi’r hyn i ni gymharu’r wybodaeth rhowch i ni, gyda’r ardaloedd perthnasol oddi fewn ein cymunedau.
Mae’r wybodaeth y byddwch yn rhannu gyda ni, yn rhoi syniad o sut mae trigolion yn teimlo am faterion trosedd ac anrhefn. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth yma i lywio ein datblygiadau ar gyfer cynllun y dyfodol.
Bydd y wybodaeth yn cael ei rannu oddi fewn y Bartneriaeth yn unig, ond nid oddi fewn unrhyw sefydliad arall, a bydd ond yn cael ei gadw o fewn yr Awdurdod Lleol am gyfnod o 12 mis.
Mae 29 o gwestiynau yn yr arolwg hwn.