Daeth Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 i rym ar 25 Medi 2014.
Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol fynd ati’n barhaus i wella cyfleusterau a llwybrau ar gyfer cerddwyr a beicwyr, a llunio mapiau sy’n nodi’r llwybrau y gallant eu defnyddio ar hyn o bryd yn ogystal â llwybrau arfaethedig y gallant eu defnyddio yn y dyfodol.
O dan y Ddeddf mae hefyd yn ofynnol bod cynlluniau ffyrdd newydd (gan gynnwys cynlluniau gwella ffyrdd) yn ystyried anghenion cerddwyr a beicwyr yn y cyfnod dylunio.
Nod y Ddeddf yw galluogi mwy o bobl i gerdded a beicio a defnyddio dulliau teithio heblaw am gludiant modur. Wrth wneud cerdded a beicio’n fwy diogel ac ymarferol gellir annog pobl i fyw’n iachach, lleihau allyriadau carbon a gwella ein hamgylchedd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr holiadur, cysylltwch ag Andrew Gregson ar AndrewRoyGregson@gwynedd.gov.uk neu 01286 679413
Mae 18 o gwestiynau yn yr arolwg hwn.