Rydych chi wedi cwblhau 0% o'r arolwg hwn
Caution: JavaScript execution is disabled in your browser or for this website. You may not be able to answer all questions in this survey. Please, verify your browser parameters.

Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Adnau Ynys Môn a Gwynedd 2011-2026: Ffurflen Sylwadau Canllaw Cynllunio Atodol 'Cymysgedd Tai'

Rydych yn cyflwyno sylwadau am y CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL: CYMYSGEDD TAI (DRAFFT YMGYNGHOROL). I weld fersiwn PDF neu Word o'r ddogfen ewch iwww.gwynedd.llyw.cymru/cca

 

Yn dilyn mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, mae Awdurdodau Cynllunio Gwynedd a Môn yn paratoi cyfres o Ganllawiau Cynllunio Atodol. Mae Canllawiau Cynllunio Atodol yn rhoi arweiniad a rhagor o fanylion angenrheidiol am bolisïau penodol yn y Cynllun Datblygu Lleol. Dylai'r Canllawiau hyn, felly, roi mwy o sicrwydd i ymgeiswyr, a'u helpu nhw i baratoi ceisiadau cynllunio addas i'w cyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio. Nid oes gan y Canllawiau Cynllunio Atodol yr un statws â’r Polisïau sy'n rhan o'r Cynllun Datblygu Lleol, ond, maent yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.

Hoffem glywed eich barn ar:

  • CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL: CYMYSGEDD TAI (DRAFFT YMGYNGHOROL)

Mae’n rhaid derbyn eich sylwadau ddim hwyrach na 4.30yh a 5ed o Orffennaf 2018. NI FYDD SYLWADAU A DDERBYNNIR WEDI’R DYDDIAD YMA YN CAEL EU HYSTYRIED

Sylwer bod RHAID i sylwadau fod yn ymwneud â’r Canllaw Cynllunio Atodol yn unig, ac nid am bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Ni fydd sylwadau eraill yn derbyn sylw.

Bydd yr adborth a ddarperir gennych yn galluogi'r Awdurdodau i gwblhau’r Canllawiau Cynllunio Atodol yma. Bydd eich enw llawn a'ch sylwadau chi yn cael eu cyhoeddi mewn copi caled ac ar-lein fel rhan o'r Datganiad Ymgynghoriad, a fydd yn nodi pwy yr ymgynghorwyd â hwy, y prif faterion a godwyd a sut ymatebwyd i’r sylw. 
 

Os yw grŵp yn rhannu barn gyffredin ynglyn â’r Canllaw Cynllunio Atodol drafft, byddai'n ddefnyddiol pe fyddai’r grŵp hwnnw yn anfon ffurflen sengl gyda’u sylwadau, yn hytrach na bod nifer fawr o unigolion yn anfon ffurflenni ar wahân sy’n ailadrodd yr un pwynt. Mewn achosion o'r fath, dylai'r ffurflen ddangos yn glir faint o bobl sy’n cael eu cynrychioli a sut cafodd y gynrychiolaeth ei awdurdodi (gan gynnwys un pwynt cyswllt ar gyfer gohebiaeth yn y dyfodol).

Mae 37 o gwestiynau yn yr arolwg hwn.
Mae'r arolwg hwn yn ddienw.

Nid yw'r cofnod o'ch ymatebion i'r arolwg yn cynnwys unrhyw wybodaeth adnabod amdanoch chi, oni bai bod cwestiwn arolwg penodol wedi gofyn yn benodol amdanynt.

If you used an identifying access code to access this survey, please rest assured that this code will not be stored together with your responses. It is managed in a separate database and will only be updated to indicate whether you did (or did not) complete this survey. There is no way of matching identification access codes with survey responses.