Ar ôl y cyfrifiad diwethaf yn 2011, disgynnodd canran y bobl yn y Felinheli oedd yn gallu siarad Cymraeg o 72.1% yn 2001 i 64.3% yn 2011. Er mwyn ymateb i’r her yma mae grŵp ohonom sy’n drigolion yn y Felinheli wedi mynd ati i weithio i wneud yn siŵr na fydd yna gwymp pellach.
Mae’n gwaith ni yn cael ei gefnogi gan hunaniaith sef y Fenter Iaith yng Ngwynedd, Llywodraeth Cymru a gan Gyngor Gwynedd.
Mae gofyn fod 70% o drigolion unrhyw gymuned yn deall ac yn defnyddio iaith dydd i ddydd i’r iaith honno fod yn gynaliadwy yn y tymor hir.
Mae 49 o gymunedau yng Nghymru yn rhai lle mae 70% neu fwy o bobl yn siarad Cymraeg. Mae 40 o’r rhain yma yng Ngwynedd.
Mae’r Gymraeg yn dal i fod yn iaith fyw iawn yn y Felinheli ond mi fydd angen ymdrech gan bawb i ofalu y bydd hi’n aros yng nghalon bywyd y pentref ac yn adennill ei thir.
I atal dirywiad pellach mae’n bwysig eich bod chi, fel rhywun o'r Felinheli sy’n medru Cymraeg yn rhannu eich syniadau hefo ni ac yn meddwl am ffyrdd y medrwch chi roi hwb i’r Gymraeg.
Mae 11 o gwestiynau yn yr arolwg hwn.